Cynhysgaeth Iaith Clai

 

Yn gynhysgaeth barhaol a ffordd o adolygu Iaith Clai, fe ymrwymwyd i greu adolygiad gweledol, sain ac ysgrifenedig yn edrych ar yr effaith positif mae’r prosiect wedi ei gael ar artistiaid, partneriaid ac ymwelwyr. Mae’r wybodaeth yma, ar gael ar wefan Iaith Clai, yn cynnwys darnau sain newydd a blaenorol o ymarferwyr, artistiaid ac ymarferwyr eraill ar hyd y daith. Cafwyd cyfweliad diwedd prosiect gyda'r artistiaid a churadur y prosiect, darnau sain o unigolion a oedd yn rhan o weithgareddau ynghyd a cholegau, grwpiau cymuned. Fe gomisiynwyd Alex McErlain a Mererid Hopwood i ymateb i gynhysgaeth y prosiect.

Iaith Clai

Prosiect parhaol yw Iaith Clai sydd yn dathlu amrywiaeth ymarfer serameg cyflawnedig. Cyflwyna cyrff newydd o waith gan artistiaid cyfoes dethol gydag ymarfer stiwdio yng Nghymru. Ymdrin pob artist â’r cyfrwng gyda gwahanol bersbectifau, profiadau a sgiliau. Mae ymarfer serameg yn ddiddiwedd yn ei bosibiliadau creadigol. Fel deunydd organig, ymateba clai yn ddeinamig i wahanol ffyrdd a thriniaeth. Yr ansawdd yma sydd yn ei wneud mor gyfareddol a heriol i weithio gyda. O fewn maes sydd yn gryf yma yng Nghymru, mae’r artistiaid yn arddangos ymarferiad unigol.

Curadwyd Iaith Clai gan Ceri Jones, a’i drefnu gan Oriel Mission, ac fe’i ddarparir mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ac Oriel Serameg Aberystwyth. Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 Newyddion Diweddar

 Archif Fideo

 Cyhoeddiadau

Cliciwch ar gyhoeddiad i lawrlwytho PDF am ddim.

 

Olion gan Kate Haywood

 Gweledig ac anweledig gan Ingrid Murphy

Llinellau Newidiol gan Justine Allison

 Llonydd gan Anne Gibbs

 Pridd, Tân a Halen gan Micki Schloessingk

 Adrodd Straeon gan Anna Noël