Effaith Annisgwyl. Cynhysgaeth Iaith Clai gan Alex McErlain

To speak a foreign language

in your own tongue.

No, not just one 

but a number of languages.

Korean. Old English.

Mineral. Manual.

The different and difficult

dialects of fire.

Llinellau agoriadol ‘Hidden Syntax’ gan Christopher Reid

Ysgrifennwyd y gerdd ‘Hidden Syntax’ gan Christopher Reid ym 1997 i gyd-fynd ag arddangosfa o waith gan y crochenydd Jim Malone. Bu Reid yn tynnu sylw at gymhlethdod deall yr agweddau lu ar ddiddordebau’r crochenydd a fu’n gweithio yn yr hyn a adwaenid yr adeg honno fel yr arddull ‘Eingl-Ddwyreiniol’. Ceisiodd ddangos i’r gynulleidfa beth roedd y crochenydd yn ymrafael ag o i gael hyd i’w ‘lais’ i’w fynegi ei hun. Bu’r gyfres o arddangosfeydd a ffurfiwyd o dan gochl ‘Iaith Clai’ hefyd yn ymgymryd â’r her o helpu cynulleidfa i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o gymhlethdodau cerameg gyfoes, y tro yma yn y 21ain ganrif.

Ar y cychwyn, rhaid bod curadur yr arddangosfa, Ceri Jones, wedi pendroni ynglŷn â pha effaith y gallai ei syniad ei chael ar y gynulleidfa arfaethedig, ond tybed a wnaeth Ceri hyd yn oed ragweld yr effaith y byddai’n ei chael ar yr holl gyfranogwyr gan gynnwys gwneuthurwyr, awduron, orielwyr a gwneuthurwyr ffilm. Syniad da oedd cynnal cyfres o arddangosfeydd gan ddwyn yn ei blaen amrywiaeth eang o bosibiliadau mewn sawl sioe gysylltiedig. Fodd bynnag, roedd yr her yn un sylweddol a bu’n rhaid dod â llawer o bobl at ei gilydd i weithio ar y cyd er mwyn sicrhau llwyddiant profadwy.

Roedd yr artistiaid a ddetholwyd yn amrywiol o ran eu gwaith, gan sicrhau deunydd cryf ar gyfer dehongli thema gyffredinol iaith clai. Roedd yr artistiaid dethol hefyd ar adegau gwahanol yn eu gyrfaoedd; daeth hyn â deinameg arall gan fod artistiaid iau’n wynebu cymharu eu hymdrechion â gwaith artistiaid sefydledig yn ogystal â’r ffordd arall siŵr o fod.  Pan ymwelais â Micki Schloessingk roedd hi’n ymhyfrydu yn y cyfle i edrych ar ambell syniad newydd a fuasai ar y gweill a’i herio ei hun i greu sioe gydlynus a fyddai’n cynnwys yr hen a’r newydd. Roedd hefyd yn adeg i atgoffa’r gymuned gerameg ehangach ei bod yn parhau i ddatblygu fel y gwna unrhyw artist gwerth ei halen. Ym mhen arall y sbectrwm, roedd yr artist newydd, Kate Haywood, yn wynebu her (yn betrus braidd) o ran datblygu corff mawr o waith ar gyfer ei harddangosfa un-ddynes bwysig gyntaf, sioe y gwyddai y gallai gael effaith sylweddol ar ei gyrfa (fel y gwnaeth).  Atebwyd y gofyn gan bob artist yn ei dro gan gynhyrchu casgliad eithriadol o waith oedd ynddo’i hun yn dangos budd yr her dorfol oedd yn annatod i gynllun y curadur.

Efallai mai’r rhan bwysicaf o’r prosiect oedd y gallu i gyfleu ‘iaith clai’ i gynulleidfa. Roedd datblygu’r gynulleidfa yn nodwedd amlwg o’r gyfres yma wrth i’r awydd presennol gynyddu am wybodaeth destun-benodol am gerameg. Cyfoethogwyd y profiad o feithrin dealltwriaeth o waith cerameg cyfoes gan y dulliau amrywiol o ddehongli a gafwyd ochr yn ochr â’r arddangosfeydd. Roedd pob arddangosfa’n cynnwys traethawd catalog deongliadol lle bu sawl awdur yn cyflwyno ei safbwynt arbennig ei hun ar thema’r arddangosfa yn ogystal â’r gweithiau celf gan greu yn sgil hynny gyfres o wahanol ffyrdd o ddeall iaith clai. Ychwanegwyd dimensiwn arall gan ffilmiau ac roedd yn amlwg sut y cafwyd rhyngweithio rhwng y gwneuthurydd ffilm a’r artist i ddal hanfod sefyllfa gwaith y testun. Bu’r ffilmiau’n rhan allweddol o brofiad yr arddangosfa gan gynnig cyd-destun i’r ymwelydd a chynhysgaeth i’r prosiect. Gyda’i gilydd, canlyniad yr holl fewnbwn yma oedd profiad cyfareddol i’r ymwelydd a phan fyddai artist yn bresennol i gyfrannu i’r sgyrsiau, buan iawn y byddai deialog yn datblygu sy’n arwydd pendant bod pawb yn gwneud rhywbeth yn iawn.

O safbwynt y curadu, roedd y gyfres yn cynnig nid yn unig sefydlogrwydd wrth raglennu ond hefyd gyfle i ddatblygu cynlluniau’r arddangosfeydd yn greadigol er mwyn gallu addasu pob un i’r gwahanol ganolfannau. Yn aml byddai artistiaid yn sylwi ar ba mor wahanol oedd yr olwg ar eu sioe ym mhob canolfan newydd. Tipyn o her bob amser yw addasu arddangosfeydd i natur y gofod ond roedd cynnal cyfres o sioeau dros gyfnod estynedig yn sbarduno dyfeisgarwch a doniau’r orielwyr. Ar ben hynny, roedd cael cyfres o arddangosfeydd ystyrlon a myfyrgar cysylltiedig yn galluogi meithrin cynulleidfaoedd a gwaith ymestyn allan gan gynyddu’r cysylltiadau â’r testun o bob cwr o’r rhanbarth ac yn rhoi hwb i werthiant yn ystod yr arddangosfa a thu hwnt yn siopau’r orielau.

Rwyf yn credu’n gryf bod y gyfres arloesol yma o arddangosfeydd gyda’i gilydd wedi cael effaith sydd ymhell y tu hwnt i’r hyn a welwyd efallai gan unigolion wrth gytuno i gymryd rhan yn y prosiect. Rhoddwyd hwb i groesffrwythloni syniadau ymhlith grŵp o unigolion disberod wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen a syniadau gael eu profi a derbyn ymateb. Yn sicr, mae dadansoddi effaith y gyfres ysbrydoledig yma o arddangosfeydd a nodi’r myrdd deilliannau dysgu yn gofyn y cwestiwn beth am fynd ati i roi ar waith rywfaint o’r cyfoeth dysgu drwy edrych ar iaith edau/pren/gwydr/metel mewn arddangosfeydd yn y dyfodol?

 - Alex McErlain,  Mawrth 2020.