Cynhysgaeth Iaith Clai

 

Yn gynhysgaeth barhaol a ffordd o adolygu Iaith Clai, fe ymrwymwyd i greu adolygiad gweledol, sain ac ysgrifenedig yn edrych ar yr effaith positif mae’r prosiect wedi ei gael ar artistiaid, partneriaid ac ymwelwyr. Mae’r wybodaeth yma, ar gael ar wefan Iaith Clai, yn cynnwys darnau sain newydd a blaenorol o ymarferwyr, artistiaid ac ymarferwyr eraill ar hyd y daith. Cafwyd cyfweliad diwedd prosiect gyda'r artistiaid a churadur y prosiect, darnau sain o unigolion a oedd yn rhan o weithgareddau ynghyd a cholegau, grwpiau cymuned. Fe gomisiynwyd Alex McErlain a Mererid Hopwood i ymateb i gynhysgaeth y prosiect.

 
ANLegacy.jpeg

Y Rhifau

6 Artist

7 lleoliad

27 o arddangosfeydd

275+ o weithgareddau

140,000+ o ymwelwyr

 

 Edrych nôl: Artistiaid yn Sgyrsio

Artistiaid a thîm rheoli Iaith Clai yn edrych nôl ar y prosiect ac yn rhannu eu teimladau.

 

Gweithgareddau

Roedd cyfranogiad yn rhan allweddol o brosiect Iaith Clai. Arweiniodd ein partneriaid ac artistiaid amrywiaeth o weithgareddau a sgyrsiau dros fywyd y prosiect.

 Ymatebion ac Adolygiadau Ysgrifenedig