Mewn Geiriau Eraill

 

Mae’r gyfres o arddangosfeydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.  Roeddem yn gallu defnyddio'r deunydd marchnata sydd yn cael eu darparu gyda'r arddangosfeydd i gynyddu ein gwaith maes i ddenu cynulleidfaoedd, a threfnu ymrwymiadau a gweithgareddau ymlaen llaw gydag artistiaid, a oedd yn gweithio i bawb oedd ynghlwm.

-Canolfan Grefft Rhuthun

 

Gan y bu ffocws ar wneuthurwyr benywaidd, cawsom ein hysbrydoli i gael arddangosfa Chwarae Teg-Women in Ceramics o'r casgliad sy'n dathlu 10 mlynedd o fenywod yn gweithio gyda chlai. Rydym yn cael ein hysbrydoli hefyd gan Kate Haywood i wneud arddangosfa ar cerameg gysyniadol ar gyfer 2021.

Roedd traws hyrwyddo yn fuddiol i ni gyd.

-Archif a Chasgliad Cerameg Aberystwyth

 

Bu’r gyfres o arddangosfeydd yn gadael i ni ddangos i’n cynulleidfaoedd amrywiaeth fendigedig o waith ceramig na fuasent wedi cael cyfle i’w gweld fel arall. Roedd yr arddangosfeydd yn caniatáu tipyn o ymwneud rhyngddynt a gweithgarwch ymgysylltiol.

Byddai gynnon ni ddiddordeb mewn gweld y gyfres hon yn parhau; gellid rhoi sylw arbennig i lawer o gyfryngau – tecstilau, gwydr, pren ac yn y blaen.

-Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange

 
Kate Haywood SCoA Workshop.jpg

Mae Iaith Clai, sef cyfres o arddangosfeydd, sgyrsiau a digwyddiadau, wedi bod yn adnodd gwerthfawr i'n myfyrwyr celf a dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe ... gan alluogi myfyrwyr i weithio’n agos gyda gwneuthurwyr a'u harferion priodol.

Roedd llwyddiant y [gyfres] yn seiliedig ar arddangos y sbectrwm o ieithoedd a fabwysiadwyd mewn ymarfer cerameg cyfoes.  O fewn y sbectrwm hwn, roedd y myfyrwyr yn gallu cymharu a chyferbynnu dulliau a thechnegau gwahanol.

-Katherine Clewett, Rheolwr Rhaglen, Tyst AU Celf a Dylunio Sylfaen, Coleg Celf Abertawe 

 

Mae Iaith Clai wedi bod yn brosiect hyfryd dros ben, ac yn werthfawr iawn i’r gymuned crefftau. 

O bersbectif addysgol, mae ein myfyrwyr Crefftau Dylunio, Dylunio Patrymau Arwyneb a’r rhai Sylfaen wedi elwa’n fawr o fynychu, a darlunio yn yr holl arddangosfeydd.  Cawsom sgwrs a gweithdy cyffrous gan Kate Haywood, a roddodd gipolwg ar yr ymchwil a’r broses wneud. Dywedodd myfyrwyr pa mor ddefnyddiol oedd hi i gael gwneuthurwr wrth ei gwaith yn datgelu ei phrosesau.

Mae Iaith Clai wedi bod ar lefel uwch o ran arddangosfeydd y celfyddydau cymhwysol: wedi'i churadu a'i chyflwyno'n dda, ac yn dangos gwneuthurwyr o safon sy'n wirioneddol arloesol yn eu maes. Rydym yn gobeithio y gwelwn Iaith Clai arall ac efallai, iaith gemwaith a gwydr hefyd!

 -Anna Lewis a Catherine Brown, Arweinwyr Cwrs – Crefftau Dylunio, Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 

“Roedd y gweithdai, yn syml iawn, yn wirioneddol ryfeddol.  Byddai’r artistiaid yn setlo i wneud a siarad ac roedd y myfyrwyr wedi’u swyno.  Fe helpodd yr ymweliad yn wir i godi cwestiynau diddorol ynglŷn ag arfer proffesiynol a dulliau gwneud.  Stwff gwirioneddol ardderchog.”

 

“Roeddwn wedi fy syfrdanu” 

 

“Wrth edrych ar y plant fe sylweddolais, o weld eu bod wedi ymgysylltu cymaint, fod hyn yn rhywbeth mawr.  Mae ganddyn nhw ystod eang o ofynion arbennig.  Fe wnaethon ni i gyd nodi fod un ferch na fyddai byth yn cyffwrdd â phaent na dim sy’n ‘stomplyd’ , â ffocws llwyr ar wneud ei hanifail clai.  Er mawr syndod i’r athro roedd hi’n un o’r disgyblion mwyaf canolbwyntiedig yn y grŵp.  Roedd yna synnwyr gwirioneddol o falchder â’r darnau a wnaethon nhw.  Mae wedi bod yn brofiad ffantastig i’r plant – ni allai fod wedi mynd yn well.”

 

“Yn ysgogi’r meddwl, yn sicr”. 

 

“Mae wedi bod yn ardderchog, fe ddaethon ni â’n 4 plentyn – i gyd o wahanol oedrannau ac maen nhw i gyd wedi gwirioni.”

 

“Wedi mwynhau. Wedi gwneud i mi wenu.”

 

“Dyma’r hwyl mwyaf i mi ei gael mewn arddangosfa ers hydoedd.  Llawer i feddwl amdano.  Wedi disgwyl y byddwn yn rholio fy llygaid ac yn twtian ond roeddwn i’n ei hoffi’n fawr iawn.” 

 

“Llawer o ddiolch am fy ngwahodd i ysgrifennu rhywbeth ar gyfer y catalog.  Roedd yn anrhydedd yn wir cyfarfod â gwneuthurwr mor ddawnus ac ysgrifennu amdani a chyfrannu rhywbeth tuag at y gyfres fendigedig Iaith Clai.”

 

“Ni fydd celfyddyd fel hyn yn digwydd yn aml iawn.  Trydar oedd hynna, roedd yna lawer ohonyn nhw, wnes i ddim cyfri – trydar o bob un o’r orielau…”

 

“Rydw i wrth fy modd yn gwneud hyn.  Oes raid i ni fynd adref?”

 

“Mae gwaith yr artist yn rhagorol, yn amheuthun ac wedi’i awgrymu’n ddireidus, mae yna gymaint o feistrolaeth o ddeunydd a pherthnasedd yma fel bod edrych arno’n codi ofn.”

 

“O wrando arni’n siarad bu’n rhaid i mi ailymweld â’r gwaith ac edrych drachefn ar y ffordd y’i gwneir.”

 

“Ar fy ffordd adref, yn teimlo’n isel, meddyliais ‘Fe wn i, fe alwaf i yn yr Oriel a gweld y sioe eto – fe wnaiff godi fy nghalon.”