Ymdawelu: Ingrid Murphy, Gweledig ac anweledig

Ac yn awr

yn ein tai o glai 

goleuwn ganhwyllau ar allorau oer.

Wedi’r awr waith,

cawn groesi’r hen drothwy -

y gorwel rhwng sŵn a thawelwch.

Cawn ddiosg y sgidiau baw a’r sachell

a gadael i gellwair fflach y fflam

ein tynnu’n nes, gam wrth gam.

Cipiwn yn ôl i’n cwpan aur

eiliad gatholig

y dod ynghyd,

â sêr ar y rhimyn,

yng ngheg y nos 

mae blas serameg.

‘Ymdawelwn’, 

meddai’r llwch wrth y llwch.

Ymateb barddol i Iaith Clai, gan Mererid Hopwood.