Diwrnod Cymynrodd
Diwrnod i drafod, ystyried a myfyrio gydag artistiaid Iaith Clai a’r curadur Ceri Jones. Mi fydd astudiaeth ar gael yn hwyrach.
Gweithdy gyda Kate Haywood
Disgyblion Crefftau Dylunio Coleg Celf Abertawe, PCYDDS yn mwynhau gweithdy papur gyda’r artist serameg Kate Haywood, artist arddangosfa Olion, gyda chymorth yr artist papur Becky Adams.
Olion yn Oriel Mission
Olion yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange
Agoriad Arddangosfa
Fe agorir Olion gan Kate Haywood yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange ar ddydd Sadwrn 03 Awst 2019. Fe fydd Kate yn sgwrsio gyda Alex McErlain o 12yp.
Delwedd: Dewi Tannatt Lloyd
Gwobr Rhynwladol Serameg Cyfnod Preswyl Kecskemét
Gwobrwywyd Kate Haywood gyda’r Wobr Rhyngwladol Serameg Cyfnod Preswyl Kecskemét yn yr Wyl Rhyngwladol Serameg, Aberystwyth.
Delwedd: Dewi Tannatt Lloyd
Gweledig ac anweledig yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Edrychwn yn ôl ar arddangosfa Ingrid Murphy yn Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Gwelwyd arddangosfa Ingrid ar ‘Heno’ (05 Gorffennaf 2019), rhan o ddarn ar yr Wyl Rhyngwladol Serameg.
Gŵyl Rhyngwladol Serameg
Mae cymaint i’w weld a’i wneud yn yr ŵyl Rhyngwladol Serameg sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Os ydych chi’n Aberystwyth neu yn meddwl ymweld, peidiwch colli arddangosfa ‘Gweledig ac anweledig’ Ingrid Murphy!
Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl, cliciwch yma
Gwahoddiad
Lleoliad: Oriel 1, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ar y 4ydd o Orffennaf, ar noswyl yr Ŵyl Serameg Rhyngwladol, dewch i gwrdd â'r artist Ingrid Murphy a'r curadur Ceri Jones yn Oriel 1, 6-7.30yh.
Croeso i bawb.
I'w weld yn Aberystwyth...
Mae arddangosfa ‘Gweledig ac anweledig’ Ingrid Murphy i’w weld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth tan 13 Gorffennaf - hwn yw’r arddangosfa olaf yn y daith felly peidiwch a’i golli!
Edrych nôl...
Kate Haywood yng Nghanolfan Grefft Rhuthun
02 Chwefror - 31 Mawrth 2019
Kate Haywood yn Oriel Serameg Aberystwyth
13 Ebrill - 9 Mehefin 2019
Ingrid Murphy yn Oriel Mission
02 Chwefror - 23 Mawrth 2019
Ingrid Murphy yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange
30 Mawrth – 18 Mai 2019
Justine Allison yn Oriel Serameg Aberystwyth
02 Chwefror - 24 Mawrth 2019