Gweithdy Oedolyn | Serameg i'r Gegin

10 a 17 Chwefror 2018

Cafodd y gweithdy hwn ei arwain gan Daniel Butler ac fe gymerodd lle yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, Campws Dinefwr, Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3EU.

Tywyswyd y cyfranwyr drwy'r broses o greu amrywiaeth o ddarnau ar gyfer y gegin, gan gynnwys bowliau tapas, cwpanau, llwyau a phlatiau. Archwiliwyd nifer o dechnegau, gan gynnwys taflu ar yr olwyn, defnyddio mowldiau ac adeiladu llaw. Defnyddiwyd yr ail ddiwrnod am ddatblygiad, ychwanegu manylion ac addurno'r gwaith gan ddefnyddio slip a gwydro.