Gwahoddiad

Lleoliad: Oriel 1, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Ar y 4ydd o Orffennaf, ar noswyl yr Ŵyl Serameg Rhyngwladol, dewch i gwrdd â'r artist Ingrid Murphy a'r curadur Ceri Jones yn Oriel 1, 6-7.30yh.

Croeso i bawb.

Horn Dog gan Ingrid MurphyDelwedd gan Dewi Tannatt Lloyd

Horn Dog gan Ingrid Murphy

Delwedd gan Dewi Tannatt Lloyd

I'w weld yn Aberystwyth...

Mae arddangosfa ‘Gweledig ac anweledig’ Ingrid Murphy i’w weld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth tan 13 Gorffennaf - hwn yw’r arddangosfa olaf yn y daith felly peidiwch a’i golli!

Ingrid Murphy yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Edrych nôl...

Kate Haywood yng Nghanolfan Grefft Rhuthun

02 Chwefror - 31 Mawrth 2019

20190201_183343.jpg

Kate Haywood yn Oriel Serameg Aberystwyth

13 Ebrill - 9 Mehefin 2019

Ingrid Murphy yn Oriel Mission

02 Chwefror - 23 Mawrth 2019

DSC_3616.JPG

Ingrid Murphy yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange

30 Mawrth – 18 Mai 2019

Ingrid Murphy yn Llantarnam Grange

Justine Allison yn Oriel Serameg Aberystwyth

02 Chwefror - 24 Mawrth 2019

Arddangosfa | Canolfan Grefft Rhuthun

Lluniau o'r arddangosfa 'Llinellau Newidiol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Delweddau gan Dewi Tannatt Lloyd.

Golau a Chysgod | Ceramic Review

Cymer Justine Allison glawr Ceramic Review Rhif 291, gyda darn wedi ei ysgrifennu gan Dominique Corlett. Cylchgrawn ar gael nawr.

Gweithdy Teulu | Arlunio Llinellau

23 Chwefror 2018

Gan ddefnyddio llinellau syml, siapau a phensiliau dysgodd cyfranwyr sut i arlunio rhithiau optegol a chreu rhai eu hun.

Dylunio Patrwm a Chreu Gwrthrych

Gweithdy plant, 22 Ebrill 2018

Arddangosfa ‘Llinellau Newidiol’ Justine Allison oedd ysbrydoliaeth y gweithdy i blant yma. Dechreuodd y sesiwn gydag arlunio a chynllunio patrwm i’w drosglwyddo i  lestr. Cafodd y patrwm ei rhoi ar glai, a gan ddefnyddio gwydr yfed cyffredin fel templed, adeiladwyd darn unigryw gyda phatrwm gwreiddiol arno.

Gweithdy Oedolyn | Serameg i'r Gegin

10 a 17 Chwefror 2018

Cafodd y gweithdy hwn ei arwain gan Daniel Butler ac fe gymerodd lle yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, Campws Dinefwr, Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3EU.

Tywyswyd y cyfranwyr drwy'r broses o greu amrywiaeth o ddarnau ar gyfer y gegin, gan gynnwys bowliau tapas, cwpanau, llwyau a phlatiau. Archwiliwyd nifer o dechnegau, gan gynnwys taflu ar yr olwyn, defnyddio mowldiau ac adeiladu llaw. Defnyddiwyd yr ail ddiwrnod am ddatblygiad, ychwanegu manylion ac addurno'r gwaith gan ddefnyddio slip a gwydro.

Casgliad Iaith Clai

Gweithdy Serameg, 25 Ionawr 2018

Wedi ei ysbrydoli gan Gasgliad Iaith Clai, fe wnaeth Uned Iaith a Llafar Nantgaredig greu mygiau clai. Mae'r casgliad yn cynnwys eitemau gan bob artist cyfres iaith Clai, gyda'r syniad i greu gwell dealltwriaeth o serameg drwy gyffyrddiad.

Cipolwg Breifat | Llinellau Newidiol gan Justine Allison

Cipolwg Breifat, 2yp, 13 Ionawr 2018

Iaith Clai: Rhan Dau, Arddangosfa Deithiol Cenedlaethol wedi ei guradu gan Ceri Jones

Agorwyd gan Louise Wright, Rheolwr Portffolio, Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol, Cyngor Celfyddydau Cymru.Gyda Justine Allison mewn sgwrs  â Ceri Jones i ddilyn.